Cenedlaethau'r dyfodol yw'r carfanau o bobl ddamcaniaethol sydd heb eto eu geni. Mae cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu cyferbynnu â chenedlaethau'r presennol a'r gorffennol, ac er mwyn annog pobl i feddwl am degwch rhwng cenedlaethau a chwestiynu eu ffordd o fyw heddiw.[1] Defnyddir y term yn aml wrth ddisgrifio cadwraeth neu warchod treftadaeth ddiwylliannol neu dreftadaeth naturiol. Cymru oedd y wlad gyntaf i ddeddfu er budd cenedlaethau'r dyfodol gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn 2015.
Mae'r mudiadau sy'n ymgyrchu dros gynaliadwyedd a'r hinsawdd wedi mabwysiadu'r cysyniad fel arf ar gyfer ymgorffori egwyddorion hirdymor yn gyfraith.[2] Mae'r cysyniad yn aml yn gysylltiedig â meddylfryd brodoroion dan fygythiad, fel egwyddor ar gyfer gweithredu ecolegol, megis y cysyniad o 'saith cenhedlaeth' a briodolir i draddodiad yr Iroquois.[3]
Mae'r term yn cyfeirio at yr effaith y mae'r genhedlaeth bresennol yn ei chael ar y byd y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn byw ynddo, y byd y byddant yn ei etifeddu gan fodau dynol sy'n byw heddiw. Cyfeirir at y cysyniad hwn yn y diffiniad a ddyfynnir yn fwyaf eang o gynaliadwyedd fel rhan o'r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy, mewn gwaith a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Brundtland y Cenhedloedd Unedig ar 20 Mawrth 1987: "datblygiad cynaliadwy yw datblygiad sy'n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.”[4][5]
Mae'r defnydd o 'genedlaethau'r dyfodol' mewn cyfraith ryngwladol yn cael ei gydnabod yn rhannol gan Siarter y Cenhedloedd Unedig sy'n canolbwyntio ar atal "gwallgofrwydd rhyfel" ("the scourge of war") ar genedlaethau'r dyfodol.[3] Gyda chyhoeddi adroddiad carreg filltir Ein Hagenda Cyffredin Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym Medi 2021,[6] bu diddordeb o'r newydd mewn deall y system amlochrog, gweithredu ar ei chyfer a chynrychioli cenedlaethau'r dyfodol o fewn y system honno. [7]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search